P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 7,927 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Hanes Cymru'n bwysig i bob un disgybl, gan
ei fod o'n rhoi cefndir am hanes ein Cenedl a'n treftadaeth i bawb
sy'n mynd drwy'r system addysg. Mae yna agweddau o Hanes Cymru,
megis Cyfreithiau Hywel Dda, Gwrthryfel Glyndŵr a Boddi Capel
Celyn yn perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Mae'n bryderus felly
fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymwrthod ag argymhelliad y
pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i greu corff cyffredin
o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n astudio hanes - Mae'n
bwysig creu cwricwlwm Hanes Cymru lle mae disgyblion yn dysgu am
ddigwyddiadau a materion sy'n genedlaethol, yn ogystal â
dysgu am Hanes eu cymunedau a'u hardaloedd nhw.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru